Pwll Aberpergwm: Swyddi 270 yn y fantol
- Cyhoeddwyd

Mae perchnogion pwll glo yng Nghwm Nedd wedi cyhoeddi y byddan nhw'n dechrau proses ymgynghori cyn rhoi'r gorau i'r gwaith.
Bydd y broses yn dechrau'r wythnos nesa' ac yn para am 90 niwrnod.
Tra bod Llywodraeth Cymru'n siomedig iawn, mae undebau wedi dweud bod hon yn "ergyd".
Mae mwy o lowyr yn Aberpergwm nac unrhyw bwll arall yng Nghymru.
Dywedodd y cwmni o America Walter Energy y byddai'r cynlluniau'n effeithio ar tua 270 o weithwyr.
Roedd 350 yn gweithio yno yn 2011
Y rheswm am y penderfyniad, meddai, oedd llai o alw yn y diwydiant - a'r hinsawdd economaidd heriol.
'Ergyd chwerw'
Mae undebau wedi dweud bod y cyhoeddiad yn "ergyd chwerw" i weithwyr oedd eisoes yn rhan o broses diswyddo allai effeithio ar draean o'r gweithlu.
Yn ystod y broses ymgynghori bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn aros gartre' ar gyflog llawn ond bydd disgwyl i tua 100 gloddio gwythien newydd.
Os yw'r pwll yn cau, yr awgrym yw mai dim ond nifer fach o weithwyr fyddai'n cael eu cadw er mwyn cadw'r pwll yn ddiogel.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn siomedig iawn gan fod hon yn ergyd i'r gweithwyr, eu teuluoedd a'r gymuned.
"Serch hynny, rydym yn cydweithio â'r cwmni er mwyn sicrhau y bydd gweithwyr yn cael cynnig help a chefnogaeth dry gyfrwng rhaglen React ...
'Setlo'
"Rydym yn dal i drafod sut i gefnogi'r gweithwyr drwy gyfrwng rhaglen ddatblygu."
Prif gwsmer y pwll yw Gorsaf Bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg.
Dywedodd llefarydd: "Daw'r rhan fwyaf o'r glo o sawl pwll yng Nghymru.
"Bob blwyddyn rydym yn prynu 1m o dunelli metrig o lo ... mae Aperpergwm wedi ein cyflenwi ers blynyddoedd ac rydym yn gobeithio y bydd problemau'r pwll yn cael eu setlo, yn enwedig ar adeg economaidd anodd.
"Beth bynnag mae 'na lawer o gyflenwadau o lo ar safle'r orsaf ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2012
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2011