Elen Meirion: Rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol
- Published
Cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos Elen Meirion, athrawes boblogaidd yn Ysgol Gynradd Pen Barras, Rhuthun.
Clywodd y cwest yn Llandudno fod chwaer y tenor Rhys Meirion wedi cael anafiadau i'w phen ar ôl syrthio i lawr grisiau ym mis Ebrill.
Roedd hi yn ei chartref yn Rhewl ger Rhuthun gyda'i phartner David Tudor pan ddigwyddodd y ddamwain.
Dywedodd Mr Tudor iddo godi yn y nos a chlywed sŵn.
Yn ôl y crwner, John Gittins, roedd tystiolaeth feddygol yn dangos iddi dorri ei phenglog ac roedd gwaedu mewnol.
"Roedd hi'n goleuo ein bywydau'n ddisglair," meddai.
"Bydd yna golled ar ei hôl ond bydd y rhai oedd yn ei hadnabod yn ei chofio am byth."
Cyfrannodd y rhai oedd yn ei hangladd £15,000 ar gyfer elusennau Ambiwlans Awyr Cymru ac Uned Gofal Dwys Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
.
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Mawrth 2011