Taro a ffoi: Arestio dyn 31 oed wedi i fenyw farw
- Cyhoeddwyd

Mae menyw 32 oed wedi marw yn dilyn nifer o ddigwyddiadau taro a ffoi ar ffyrdd yng Nghaerdydd brynhawn dydd Gwener.
Cafodd 12 o bobl eraill gan gynnwys saith o blant wedi'u hanafu ar draws Caerdydd.
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 31 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth ac wedi meddiannu fan wen yn rhan o'r ymchwiliad.
Dywed pobl leol mai Karina Menzies yw enw'r ddynes a fu farw.
Cafodd y dyn ei arestio ger tafarn y Merrie Harrier yn Llandochau ar gyrion Caerdydd.
Gwrthododd yr heddlu gadarnhau pryd y dechreuon nhw ddilyn cerbyd y dyn gafodd ei arestio.
Mae'r rhai sydd wedi'u hanafu yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru a bu'r ysbyty ar gau i gleifion eraill tan tua 7pm.
Llygad-dystion
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio yn dilyn y gwrthdrawiadau yn ardaloedd Trelái a Lecwydd brynhawn Gwener.
Ychwanegodd llefarydd nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall fel rhan o'r ymchwiliad.
Does dim manylion eto am anafiadau y saith plentyn a phedwar oedolyn gafodd eu cludo i'r ysbyty
Dywedodd llygad-dystion eu bod wedi gweld saith ambiwlans ac ambiwlans awyr.
Presenoldeb yn gryf
Roedd presenoldeb yr heddlu'n amlwg yn Heol Crossways, Heol Orllewinol y Bontfaen, Grand Avenue a Heol Sloper.
Dylai gyrwyr osgoi'r ardaloedd hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Daeth yr alwad gynta am 3.30pm am ddigwyddiad yn Heol Crossways.
"Cafodd pobl eu hanafu mewn pum neu chwe lleoliad."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cafodd wyth ambiwlans, pum cerbyd ymateb cyflym a dau feddyg eu hanfon i Heol Crossways, Heol Orllewinol y Bontfaen, Grand Avenue a Heol Sloper.
"Cafodd nifer o bobl, gan gynnwys plant, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau, rhai ohonynt yn ddifrifol."
Timau fforensig
Dywedodd Shady Taha, 29 oed, sy'n is-bostfeistr yn Nhrelái fod dwy ferch tua 10 oed a menyw yn ei hugeiniau wedi prynu coffi cyn gadael y siop brynhawn dydd Gwener.
"Wedyn clywais ergyd ac edrychais allan o'r siop i weld un ferch yn gorwedd ar y llawr a'r llall yn sgrechian.
"Clywais gerbyd yn gyrru i ffwrdd yn gyflym."
Dywedodd Sarah Pryor ei bod wedi bod yn ffodus i beidio cael ei tharo gan fan wen wnaeth yrru'n gyflym trwy olau coch yn Lecwydd.
"Yna fe yrrais i ffwrdd cyn imi weld y ddwy fenyw gafodd eu taro yng nghanolfan siopa Lecwydd.
"Roedd hi'n olygfa ofnadwy. Roedd merch fach yn fy nghar a bu'n rhaid imi dynnu ei sylw gan bwyntio at rywbeth arall."
Mae'r ardal o gwmpas Gorsaf Dân Trelái wedi ei chau a thimau fforensig yn archwilio.
Cafodd Heol Penarth ei chau yn Llandochau, rhwng Heol y Barri a Bryn Llandochau, a'r traffig yn cael ei anfon i gyfeiriad yr A4232.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Heather Joyce: "Rwy'n meddwl a gweddio am bawb gafodd eu heffeithio gan y digwyddiadau ofnadwy yng Nghaerdydd heddiw.
"Mae'n arswydus bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd yn ein dinas.
"Rwy'n gwybod y bydd ein cymunedau yn dod at ei gilydd yn ystod y cyfnod arswydus hwn."