Gwaith gweddnewid gorsaf Llandudno i ddechrau
- Published
Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd gwaith yn dechrau ar gynllun gwerth £5.2 miliwn i wella cyfleusterau yng Ngorsaf Reilffordd Llandudno'n ddiweddarach.
Bydd y gwaith yn cynnwys siopau a thoiledau newydd, platform newydd a swyddfeydd tocynnau newydd.
Bydd y system gwybodaeth cwsmeriaid yn cael ei diweddaru ac fe fydd 'na faes parcio newydd.
Cafodd yr orsaf ei chodi yn 1858 ac mae dros 270,000 o ymwelwyr yn ei defnyddio bob blwyddyn.
Mae disgwyl i'r delweddau Fictorianaidd gwreiddiol gael eu hadfer a'u hailddefnyddio.
Cytunodd Llywodraeth Cymru roi arian tuag ar y cynllun drwy gynllun Arian Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Mae'r cynlluniau wedi eu datblygu ar y cyd rhwng Newtork Rail, Trenau Arriva Cymru, Cyngor Conwy a Bwrdd Trafnidiaeth Rhanbarthol TAITH.
Disgwylir i'r Gweinidog Trafnidiaeth, Carl Sargeant wneud y cyhoeddiad yn ddiweddarach Ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Published
- 18 Ionawr 2011