Disgwyl i filoedd o Gymry orymdeithio yn Llundain
- Published
Disgwylir i filoedd o aelodau undeb o Gymru orymdeithio yn Llundain fel rhan o brotest yn erbyn polisïau llymder Llywodraeth y DU yn ddiweddarach.
TUC Cymru sy'n cyd-lynu'r trefniadau o ran undebwyr, ymgyrchwyr cymunedol a phobl eraill o Gymru sydd wedi teithio ar gyfer y rali a'r orymdaith yn Llundain ddydd Sadwrn.
Trefnodd TUC Cymru y byddai trên arbennig yn gadael Gorsaf Rheilffordd Caerdydd am 8:39am fore Sadwrn.
Bydd gorymdeithwyr yn cyfarfod ger Arglawdd Fictoria am 11:00am
Dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: "Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi penderfynu gorymdeithio, nid ar gyfer rali Dyfodol sy'n Gweithio yn unig, ond ar gyfer yr holl bobl ifanc sy'n cael anawsterau i ddod o hyd i waith yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
"Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd y cyfle hwn i wrando ar y cyhoedd ym Mhrydain, a gweld sut mae eu mesurau llymder yn effeithio ar bobl gyffredin a'u cymunedau."
Sefydlwyd TUC Cymru yn 1974 a chyda mwy na 50 o undebau llafur mewn aelodaeth, mae TUC Cymru yn cynrychioli bron i hanner miliwn o weithwyr.
Straeon perthnasol
- Published
- 16 Gorffennaf 2012
- Published
- 2 Ionawr 2012
- Published
- 6 Hydref 2011