Aberystwyth 1-4 Seintiau Newydd
- Cyhoeddwyd

Aberystwyth 1-4 Seintiau Newydd
Fe wnaeth dwy gol yn y munud olaf gan Michael Wilde a Alex Darlington roi buddugoliaeth o 4-1 i'r Seintiau Newydd yn erbyn Aberystwyth. Ond fe wnaeth y tîm cartref frwydro'n galed am ran helaeth y gêm. Matty Collin gafodd gol Aberystwyth ar ôl i Sam Finley a Chris Seargeant roi'r Seintiau ar y blaen. Y tîm o'r canolbarth sydd nawr ar frig y tabl.
Airbus UK Brychdyn 5-0 Prestatyn
Fe wnaeth Prestatyn syrthio i'r ail safle ar ôl cael cweir oddi cartref gan eu gwrthwynebwyr lleol Airbus o 5-0.
Aeth Airbus ar y blaen ar ôl tri munud drwy Ian Kearney.
Ar ôl hynny roedd na goliau i Wayne Riley, Steve Tomassen, Jordan Johnson a Chris Budry. Cafodd Greg Stones gerdyn coch ar ôl 60 munud i goroni noson drychinebus i'r ymwelwyr.
Cei Cona 0-1 Bala
Sgoriodd Lee Hunt unig gol y gêm cyn yr egwyl i roi buddugoliaeth i'r Bala yn Cei Cona.
Llanelli 3-2 Lido Afan
Tarodd Llanelli yn ôl gyda thair gol yn y saith munud ola i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Lido Afan. Jason Bowen, Martin Rose a Luke Bowen yn sgorio i'r tîm cartref. Cyn hynny roedd Lee Hartshorn a Chris Hartland wedi rhoi Lido ar y blaen 2-0.