Mam a phlant wedi marw mewn tân
- Published
Mae mam a dau blentyn wedi marw mewn tân mewn tŷ ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr yn gwisgo offer anadlu arbennig fynd i'r tŷ ym Maes Y Groes am tua 10pm nos Wener.
Roedd menyw 20 oed, bachgen pedair oed a merch fach ddwy flwydd oed wedi marw cyn cyrraedd yr ysbyty. Mae dyn 23 oed a bachgen 15 mis oed mewn cyflwr difrifol wael.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod dau berson wedi cael eu harestio.
Mae criwiau o ddiffoddwyr o'r Rhyl a Phrestatyn wedi bod ar y safle.
Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng yr heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eisoes wedi dechrau i'r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y dyn a'r babi wedi cael eu cludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, ond fod y dyn wedi cael ei drosglwyddo i Ysbyty Whiston ar Lannau Mersi yn ddiweddarach.
Cafodd y babi hefyd ei symud am driniaeth bellach i Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl. Dywedodd yr heddlu ei fod mewn cyflwr gwael iawn.
Deellir bod yr eiddo yn dŷ oedd wedi cael ei droi'n fflatiau.