Holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Karina MenziesFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Karina Menzies, sy'n fam i dri o blant, ei lladd pan gafodd ei tharo gan y fan

Mae dyn 31 oed yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i fenyw farw a 13 o bobl eu hanafu mewn cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Cafodd y bobl i gyd eu taro gan gerbyd mewn digwyddiadau gwahanol ar draws y ddinas ac mae saith o'r rhai a anafwyd yn blant.

Cafodd dyn ei arestio gan Heddlu De Cymru wedi i fan wen gael ei stopio ar gyrion y ddinas.

Mae naw o'r bobl anafwyd yn dal yn Ysbyty'r Brifysgol yn cael triniaeth gan gynnwys pump o blant.

Mae dau oedolyn yn yr ysbyty mewn cyflwr sy'n cael ei ddisgrifio fel "difrifol iawn".

Yn ogystal â'r rhai gafodd eu taro gan y cerbyd, mae'r heddlu wedi cadarnhau bod gyrrwr y cerbyd wedi dod allan o'r fan ac wedi ymosod ar rai pobl gan ddefnyddio arf.

Ond roedd yr heddlu'n pwysleisio na chafodd gwn ei ddefnyddio.

Mewn cynhadledd newyddion fore Sadwrn, mae'r heddlu hefyd wedi apelio am wybodaeth am gerbyd arall.

Fe welwyd car Renault Clio du gyda rhif cofrestru o'r flwyddyn '05' ei weld yn cael ei yrru ar ochr anghywir y ffordd.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn astudio camerâu cylch cyfyng o sawl ardal o'r ddinas i geisio canfod union symudiadau'r car, a'r fan wen gafodd ei stopio ganddyn nhw yn ddiweddarach.

Cafodd y fenyw fu farw ei henwi'n lleol fel Karina Menzies, 32 oed.

Mae blodau wedi cael eu gadael fel teyrnged iddi ar stryd gan bobl leol.

Targedu

Dywedodd llygad-dystion bod pobl wedi cael eu targedu'n fwriadol gan rywun oedd yn gyrru fan mewn pum lleoliad gwahanol.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod "wedi ei syfrdanu" gan y digwyddiadau, a'i fod yn meddwl am deuluoedd y rhai gafodd eu heffeithio gan y digwyddiadau.

"Hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau brys sydd yn delio gyda goblygiadau'r digwyddiadau erchyll yma," ychwanegodd.

Cafodd dyn ei arestio gan blismyn ger tafarn y Merrie Harrier ym Mhenarth ar gyrion Caerdydd.

Disgrifiad,

Sylwadau Angharad Davies, llygad-dyst

Nid yw'r heddlu wedi cadarnhau pryd yn union y dechreuon nhw fynd ar ôl cerbyd y dyn dan amheuaeth - fan wen Iveco.

Mae disgwyl iddyn nhw gyhoeddi mwy o fanylion am yr ymchwiliad mewn cynhadledd newyddion am 11:00am ddydd Sadwrn.

Mae mwyafrif y rhai sy'n cael triniaeth yn Ysbyty'r Brifysgol yn diodde' o doriadau esgyrn ac anafiadau i'r pen.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd fan wen ei stopio gan yr heddlu yn ardal Lecwydd o'r ddinas

Sawl lleoliad

Dechreuodd y digwyddiadau pan gafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Ffordd Crossways yn Nhrelái am 3:30pm ddydd Gwener.

Yn fuan daeth adroddiadau am wrthdrawiadau gyrru-heb-oedi mewn sawl lleoliad arall yng ngorllewin y ddinas: Grand Avenue, Ffordd Gorllewin y Bontfaen, Ffordd Sloper a ger siop Asda ym mharc manwerthu Lecwydd yn agos i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dywedodd Diane Quick, 43 oed o Drelái, wrth BBC Cymru bod ei nith Anastasia Jones, a'i gor-nith Amelia, sy'n ddwy oed, wedi cael eu hanafu.

"Cafodd y ddwy eu taro o'r tu ôl gan y fan. Roedd Amelia yn y pram, ond fe gafodd gleisiau," meddai.

"Mae Anna wedi torri ei choes ac mae'n disgwyl i gael sgan.

"Rwyf wedi gweld Karina yn mynd a dod o'r ysgol i nôl ei phlant. Mae pawb yn dweud pa mor neis oedd hi - wastad yn gwenu ac yn barod ei chymwynas.

"Fe glywais i ei bod hi ar y ffordd o'r ysgol ar ôl bod yn cyfarfod y plant. Mae'n erchyll."

Cysur

Mae'r Parchedig Jan Gould wedi agor Eglwys yr Atgyfodiad ar Grand Avenue er mwyn cynnig cysur i'r gymuned.

Dywedodd: "Roedden ni ar agor tan tua 11:30pm neithiwr, ac roedd nifer o bobl am ddod i eistedd, tanio cannwyll neu dim ond ceisio gwneud synnwyr o'r hyn ddigwyddiodd. Fe fyddwn ni'n agor tan 6 heno."

Dywedodd yr Uwch-Arolygydd Julian Williams o Heddlu De Cymru: "Dyma ddigwyddiad trasig sydd wedi effeithio ar nifer fawr o bobl, ac rydym yn diolch i bobl Caerdydd am eu cymorth a'u cefnogaeth.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn bethau prin iawn, a hoffwn dawelu ofnau'r cyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddogion yn gweithio ar yr ymchwiliad, gan nifer o adnoddau arbenigol."