Scarlets 13-20 Leinster
- Cyhoeddwyd

Scarlets 13-20 Leinster
Wedi'r grasfa yn erbyn Clermont wythnos yn ôl, roedd y Scarlets yn gwybod pa mor bwysig oedd ennill ar eu tomen eu hunain y penwythnos yma er mwyn cadw gobaith o aros yng Nghwpan Heineken.
Roedden nhw'n gwybod hefyd y byddai angen cadw disgyblaeth i wneud hynny, ond diffyg disgyblaeth gollodd y gêm i'r tîm o Lanelli wrth i droed Jonathan Sexton gyfrannu'n sylweddol at gyfanswm pwyntiau'r ymwelwyr.
Daeth cais yn yr hanenr cyntaf i Leinster wrth i Isa Nacewa groesi'r llinell, ac er na fu Sexton yn llwyddiannus gyda'r trosiad, fe sgoriodd ddwy gic gosb i sicrhau bod pencampwyr Heineken y llynedd yn mynd am yr egwyl 11-0 ar y blaen.
Yn yr ail hanner, croesodd Gareth Maule am gais a gafodd ei drosi gan Rhys Priestland, ac ychwanegodd y maswr gic gosb i ddod â'r Scarlets yn ôl o fewn trosgais i'r gwrthwynebwyr.
Ond gyda chiciwr fel Sexton yn chwarae'n dda, roedd ildio cymaint o giciau cosb o fewn cyrraedd at y pyst yn ddraenen yn ystlys y Scarlets.
Ciciodd Sexton bedair cic gosb ac ychwanegodd gôl adlam i sicrhau'r fuddugoliaeth er i Leinster orfod gorffen y gêm gydag 14 dyn wedi i Ian Madigan weld cerdyn melyn am drosedd ar Liam Williams.
Bydd un pwynt bonws wrth golli yn ddim cysur i'r Scarlets.
Er mai dim ond dwy gêm y mae'r Scarlets wedi chwarae yn y gystadleuaeth y tymor hwn, mae eu gobeithion o fynd ymlaen i'r rowndiau terfynol eisoes yn deilchion.