Casnewydd a Wrecsam yn dal yn y gwpan
- Published
Wrecsam 2-0 Southport
Bydd Wrecsam yn rownd gyntaf go iawn Cwpan FA Lloegr y tymor hwn yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Southport ym mhedwaredd rownd rhagbrofol y gystadleuaeth ar y Cae Ras.
Roedd y tîm fel pe bai nhw'n aros tan y funud olaf y sicrhau'r fuddugoliaeth.
Sgoriodd Dean Keates y gyntaf i Wrecsam wedi 45 munud wrth i'r dyfarnwr estyn am y chwiban i ddod â'r hanner cyntaf i ben.
A bu'n rhaid aros tri chwarter awr arall cyn i dîm Andy Morrell sicrhau'r fuddugoliaeth.
Brett Ormerod gafodd yr ail gôl yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau ar ddiwedd y 90 munud.
Yate Town 3-3 Casnewydd
Bydd enw Casnewydd yn yr het ar gyfer y rownd gyntaf go iawn hefyd, ond dim ond o drwch blewyn.
Roedd Casnewydd ar y blaen 1-0 ar yr egwyl diolch i gôl Jefferson Louis wedi dim ond saith munud, ond roedd yr ail hanner yn lalwer mwy cyffrous, a pheryglus i Gasnewydd.
Daeth dwy gôl o fewn pedwar munud i'r tîm cartref drwy Knighton a Page i'w rhoi ar y blaen wedi 54 munud.
Pan sgoriodd Groves y drydedd i Yate wedi 69 munud roedd hi'n ymddangos y byddai taith Casnewydd yn y gwpan eleni ar ben.
Ond yna daeth llygedyn o obaith pan sgoriodd Aaron O'Connor wedi 89 munud i dîm Justin Edinburgh, ac fe gwblhawyd y wyrth pan sgoriodd Tom James un arall yn yr amser ychwanegol am anafiadau.
Gêm gyfartal i Gasnewydd felly, ac fe fydd ail chwarae yn Rodney Parade ganol wythnos nesaf.