Gleision 14-22 Toulon

  • Cyhoeddwyd
Toulon try-scorer Steffon Armitage is tackled by Blues' Josh NavidiFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Steffon Armitage yn cael ei daclo gan Josh Navidi

Gleision 14-22 Toulon

Fel y Scarlets, mae dyfodol y Gleision yng Nghwpan Heineken y tymor hwn yn edrych yn fregus tu hwnt wedi iddyn nhw golli eu hail gêm yn y gystadleuaeth ddydd Sul.

Toulon oedd yr ymwelwyr i'r brifddinas - tîm sy'n cynnwys un o'r cicwyr gorau erioed yn Jonny Wilkinson.

Ond y Gleision aeth ar y blaen diolch i gais Leigh Halfpenny, ac er iddo fethu'r trosiad, roedd yn ddechrau gwych.

Yna daeth troed chwith Wilkinson yn rhan bwysig o'r chwarae wrth iddo gicio dwy gôl gosb i'r ymwelwyr, ond fe gafodd Halfpenny un ei hun i gadw'r Gleision ar y blaen o 8-6 ar yr egwyl.

Anafiadau

Roedd y Gleision yn anlwcus gydag anafiadau, gan golli Benoit Bourrust o'r pac yn gynnar, a Gavin Evans yn dilyn tacl amheus gan Delon Armitage.

Ond fel y Scarlets ddydd Sadwrn, roedd y Gleision yn ildio ciciau cosb yn aml gyda nifer ohonyn nhw o fewn cyrraedd i'r pyst.

Mewn sefyllfa felly does neb gwell na Wilkinson, ac fe sgoriodd dair gôl gosb arall yn yr ail hanner yn ogystal â throsi cais Steffon Armitage.

Fe gafodd Halfpenny ddwy arall hefyd, ond roedd cyfanswm o 17 o bwyntiau i Wilkinson yn ormod i'r Gleision.

Ni fydd ail bwynt bonws i'r tîm o Gaerdydd yn gysur o gwbl, ac mae'r canlyniad yn gadael y Gweilch fel yr un rhanbarth o Gymru sydd ag unrhyw obaith gwirioneddol o gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Heineken y tymor hwn.