Tân: Rhagor o amser i holi
- Published
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cael 36 awr ychwanegol i holi dau o bobl - dyn 45 oed a menyw 42 oed - ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn tân mewn fflat ym Mhrestatyn nos Wener.
Mae ganddyn nhw tan 4:00am ddydd Mawrth i'w holi.
Mae'r heddlu'n dweud y byddan nhw'n parhau i weithio'n agos â'r Gwasanaeth Tân i ddarganfod beth yn union a ddigwyddodd.
Fe gafodd pedwar o bobl eu lladd, tri ohonyn nhw'n blant gan gynnwys Charlie Timbrell, babi 15 mis oed a fu farw yn Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl ddydd Sul.
Mae tad Charlie Timbrell, 23 oed, yn dal yn yr ysbyty.
Cyhoeddodd y Gwasanaeth Tân ddydd Sadwrn fod Lee-Anna Shiers, 20 oed, a dau blentyn - Bailey Allen, 4 oed a Skye Allen oedd yn ddwy oed - wedi marw yn y tân.
Cafodd partner Lee-Anna, Liam Timbrell sy'n 23 oed, anafiadau difrifol ac mae mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Whiston ar Lannau Mersi.
Fflatiau
Roedd y bobl fu farw yn byw mewn fflat ar y llawr cyntaf, ac roedd y ddau gafodd eu harestio yn byw mewn fflat ar y llawr gwaelod.
Er bod Lee-Anna Shiers yn perthyn i'r ddau blentyn fu farw yn y tân, nid hi oedd eu mam, ond yn hytrach roedd yn fodryb i'r ddau ac yn eu gwarchod pan ddigwyddodd y tân.
Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd John Chapman: "Byddwn yn apelio ar unrhyw un a welodd unrhyw beth amheus yn ardal Maes y Gores o Brestatyn i gysylltu â ni cyn gynted â phosib drwy ffonio 101.
"Mae swyddogion cyswllt teuluol yn gweithio'n agos gyda'r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma, ac mae tîm o swyddogion yn gweithio ar sawl trywydd penodol yn yr ymchwiliad ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Hydref 2012
- Published
- 20 Hydref 2012