Llanc yn cwympo 20 troedfedd ym Maenofferen
- Cyhoeddwyd
Aed â llanc 16 oed i'r ysbyty ar ôl cwympo 20 troedfedd ar greigiau o bont mewn chwarel yng Ngwynedd.
Roedd y ddamwain ym Maenofferen, Blaenau Ffestiniog, nos Sul.
Ar ôl ei ddodi ar stretsier cafodd ei godi i hofrennydd yr Awyrlu o'r Fali yn Ynys Môn.
Aed ag ef i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gydag anafiadau lluosog.