Aelodau undeb UCAC yn gweithio i reol
- Published
Mae aelodau undeb UCAC sy'n athrawon ysgol yn gweithredu'n ddiwydiannol heb streicio o ddydd Llun ymlaen.
Y rheswm am yr anghydfod yw cynigion Llywodraeth San Steffan mewn perthynas â thâl rhanbarthol neu leol, nenfwd ar godiadau cyflog, a thâl ar sail perfformiad i athrawon.
Mae gan UCAC yr hawl i streicio ond ni fydd yn gwneud hynny am y tro.
Bydd aelodau sy'n athrawon ysgol yn gweithio i reol a'r undeb yn ailasesu'r sefyllfa pan fydd y Corff Adolygu Athrawon Ysgol yn cyflwyno argymhellion ar gyfer dyfodol tâl athrawon.
Disgwylir i'r argymhellion gael eu cyhoeddi ddiwedd mis Hydref.
Llwyth gwaith
Yn y cyfamser, mae undebau'r NASUWT a'r NUT yn gweithredu'n ddiwydiannol heb streicio oherwydd anghydfod am gyflog a llwyth gwaith yn Lloegr a llwyth gwaith yng Nghymru.
Dywedodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae aelodau'n bryderus iawn am oblygiadau cynlluniau Llywodraeth San Steffan ar gyfer y system addysg a safonau addysgol yng Nghymru, ac ar gyfer economi Cymru yn ei chyfanrwydd.
"Rydym ni'n dechrau trwy weithredu i reol fel rhybudd i'r Ysgrifennydd Gwladol.
"Mae'n bwysig iddo gofio bod gennym yr hawl i streicio os byddwn yn teimlo bod angen gwneud hynny.
"Mawr obeithiwn y bydd e'n gwrando ar farn athrawon ac y bydd modd osgoi'r math hwnnw o weithredu."
Pan gyhoeddodd undeb yr NUT y bydden nhw'n streicio dywedodd yr Adran Addysg: "Byddai gweithredu diwydiannol yn amharu ar addysg plant, yn achosi anghyfleustra i rieni ac yn effeithio'n negyddol ar enw da'r swydd yng ngolwg y cyhoedd."
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Medi 2012
- Published
- 7 Ebrill 2012
- Published
- 24 Chwefror 2012