'Pyst wedi syrthio ar fachgen' wrth iddo chwarae pêl-droed
- Published
Yn Y Trallwng mae cwest wedi clywed tystiolaeth yn achos bachgen o Bowys fu farw ar ôl cael ei daro gan byst gôl pêl-droed.
Roedd Casey Breese, 12 oed, yn chwarae gyda chyfeillion ym mhentre' Caersws fis Gorffennaf y llynedd.
Clywodd y cwest fod y bachgen wedi neidio'n uchel er mwyn arbed ergyd cyn glanio ar y ddaear ond bod ei droed yn sownd yn y rhwyd.
Tarodd y pyst ei gefn.
Dynion ambiwlans roddodd driniaeth iddo cyn i ambiwlans awyr ei gludo i Ysbyty Amwythig ond bu farw cyn cyrraedd.
Clywodd y cwest fod y pyst yno ers 20 mlynedd ac wedi rhydu.
Roedden nhw'n 24 troedfedd o led ac roedd angen hyd at chwech o ddynion eu cario.
Dim asesiad risg
Y diwrnod dan sylw nid oedd dim wedi ei wneud i'w sefydlogi ac nid oedd asesiad risg wedi cael ei gynnal.
Roedd pump o ffrindiau Casey wedi anfon datganiadau ysgrifenedig at y cwest.
Dywedodd George Clarke, 13 oed: "Mi oedd Casey yn y gôl a phan syrthiodd ar ei stumog a syrthiodd y trawst arno".
A dywedodd brawd George, Edward: "Mi neidiodd er mwyn arbed ergyd ond mi oedd ei droed yn sownd yn y rhwyd.
"Pan gododd ar ei eistedd nid oedd yn medru anadlu."
Dywedodd y Cwnstabl Andrew Jones fod y pyst wedi syrthio o'r blaen pan oedd bachgen wedi cydio yn y trawst.
Mae disgwyl i'r cwest ddod i ben ddydd Mawrth.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Awst 2011
- Published
- 2 Awst 2011
- Published
- 31 Gorffennaf 2011