Alun Michael yn gadael San Steffan
- Cyhoeddwyd

Roedd Alun Michael yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref
Mae Alun Michael wedi rhoi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth.
Mae wedi bod yn AS ers 1987 ac fe fydd yn canolbwyntio ar ymgyrchu i fod yn Gomisiynydd cynta' Heddlu de Cymru.
O'r herwydd mi fydd is-etholiad yno'n fuan.
Roedd Mr Michael yn arfer bod yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref ac yn Ysgrifennydd Cymru.
Ef oedd Gweinidog Cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref yn 1997 gyda chyfrifoldeb arbennig am gyfiawnder troseddol, yr heddlu a'r sector gwirfoddol.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol