Geiriadur ar gledr y llaw drwy raglen newydd ar y ffôn
- Cyhoeddwyd

Ydych chi eisiau cyfieithiad o air neu ystyr gair ar flaenau'r bysedd?
O hyn ymlaen mae modd i ddefnyddwyr ffonau symudol arbennig fod â'r geiriadur ar gledr y llaw ac ymhell o'r silff lyfrau neu gyfrifiadur.
Bydd Ap Geiriadur yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf ar gopa'r Wyddfa er mwyn dangos ei hyblygrwydd.
O ganlynid i'r datblygiadau technoleg mae'r rhaglen ddiweddara ar gael fel geiriadur i ddysgwyr, rheini, plant ac athrawon ym mhobman ac ar gael i'r iPhone, iPad ac Android.
Ar y dechrau, bydd dau eiriadur yn yr Ap Geiriaduron, sef geiriadur cyffredinol Cysgair, a geiriadur termau safonol Y Termiadur Addysg.
"Fe ddewison ni lansio'r ap ar gopa'r Wyddfa er mwyn dangos gymaint yn haws ydi hi i gael geiriaduron ar ap yn hytrach nag ar ffurf geiriaduron papur," meddai Patrick Robertson, aelod ieuengaf staff yr Uned Technolegau Iaith, sy'n rhan o Ganolfan Bedwyr Prifysgol Bangor.
Gwneud mwy
Ariannwyd ei swydd yn rhannol dan gynllun Go Wales, sy'n cynnig profiad gwaith i raddedigion ifanc.
Dywedodd Elinor Churchill, Cydlynydd Lleoliadau Go Wales, ei bod wedi bod yn bleser mawr cefnogi Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr a Patrick i ddatblygu'r rhaglen.
"Bydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg lle bynnag y maen nhw," ychwanegodd.
Goruchwyliwyd y gwaith ar y rhaglen newydd gan Dewi Bryn Jones a David Chan, peirianwyr meddalwedd yr Uned Technolegau Iaith.
"Mae ein geiriaduron electronig yn medru gwneud llawer mwy na'r hen eiriaduron papur, er eu bod yn cymryd llai o le," meddai Mr Chan.
"Mae'r Ap Geiriaduron yn medru dad-dreiglo a rhedeg berfau, ac mae hyn yn help mawr i ddysgwyr fel fi i adnabod geiriau Cymraeg sydd ddim wastad yn hawdd eu ffeindio mewn geiriadur traddodiadol."
Yn ogystal â'r rhaglen fe fydd bysellfwrdd ffôn Cymraeg newydd, sy'n gymorth tecstio'n Gymraeg a Saesneg, yn cael ei lansio.
Gwaith llawrydd gan Mr Chan ei hun ydi hyn gyda defnydd y data geiriadurol yr Uned Technolegau Iaith.
Bydd y rhaglen ar gael yn rhad ac am ddim trwy'r Apple App Store, y Google Play Store a'r Amazon App Store o ddydd Mawrth ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2011