Dyn yn ôl yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 31 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd trwy gyswllt fideo wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes yng Nghaerdydd.
Parodd y gwrandawiad am 15 munud, a siaradodd Matthew Tvrdon yn unig i gadarnhau ei enw ac i ddweud nad oes ganddo gyfeiriad parhaol.
Mae'n wynebu 19 cyhuddiad, sef cyhuddiad o lofruddiaeth, 13 chyhuddiad o geisio llofruddio, pedwar cyhuddiad o ymosod gan beri niwed corfforol, a chyhuddiad o yrru'n beryglus.
Bydd yn dychwelyd i Lys y Goron ar Ionawr 28 ar gyfer gwrandawiad ple.
Bu farw Karina Menzies, 31 oed, wedi iddi gael ei tharo gan fan y tu allan i orsaf dân Trelái brynhawn Gwener.
Cafodd 13 o bobl eraill, nifer yn blant, eu hanafu mewn cyfres o wrthdrawiadau tebyg yn y brifddinas ar Hydref 19.
Mae dau o oedolion, a fu mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn gwella.
Nos Lun cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ddatganiad yn diolch i'w staff am gynnig eu gwasanaeth mewn sawl ffordd wedi i faint yr argyfwng ddod i'r amlwg.
Mae blodau wedi cael eu gadael tu allan i'r orsaf dân er cof am Ms Menzies.
Sefydlwyd cronfa apêl i gynorthwyo'r teulu, sydd eisoes wedi casglu rhai miloedd o bunnau.
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i rai â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio 0800 096 0095.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2012