Cyngor i drafod sefyllfa Ysgol Cwmcarn
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Cyngor Caerffili yn cynnal cyfarfod arbennig i drafod sefyllfa un o ysgolion uwchradd y sir.
Bu'n rhaid cau Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar Hydref 12 ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod achosion o asbestos yno.
Fe wnaeth disgyblion y chweched ddychwelyd i'r safle, i floc newydd, ddydd Gwener ac mae'r ysgolion a'r cyngor wedi gwneud trefniadau ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 yno hefyd.
Bydd y cyfarfod, ym mhencadlys y cyngor yn Ystrad Mynach brynhawn Mawrth, yn ystyried y camau nesaf.
Y disgwyl yw y bydd y 900 o ddisgyblion yn ôl yn cael gwersi ar ôl gwyliau hanner tymor yr wythnos nesaf.
Mae'r cyngor yn dweud eu bod wedi derbyn cyngor gan arbenigwyr i ystyried chwalu'r adeilad oherwydd y gost o reoli'r broblem.
Opsiynau
Fe fydd y cyngor hefyd yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda rhieni'r wythnos hon i gynnig gwybodaeth bellach am y sefyllfa gan gynnwys trefniadau i'r rhai a fydd yn dychwelyd ar ôl hanner tymor.
Mae swyddogion a chorff llywodraethu'r ysgol yn ymchwilio i sawl opsiwn ar gyfer y disgyblion.
"Mae Cyngor Bwrdeistref Caerffili yn falch o fod yn gallu dweud y bydd holl ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cwmcarn yn ôl yn yr ysgol ar Dachwedd 5 wedi gwyliau hanner tymor," meddai llefarydd.
"Fe fydd Blwyddyn 12 a 13 yn dychwelyd i'r bloc newydd ar y safle ddydd Gwener a Blwyddyn 11 yn dychwelyd ddydd Llun."
Mae'r cyngor hefyd yn darparu gwybodaeth am faterion iechyd mewn perthynas ag asbestos.
O ganlyniad i'r achos yng Nghwmcarn mae Gweinidog Addysg Cymru wedi galw ar bob awdurdod i baratoi adroddiad erbyn yr wythnos hon ar lefel asbestos mewn ysgolion.
Dywedodd bod gan gynghorau gyfrifoldeb cyfreithiol i gynnal arolygon blynyddol.
Straeon perthnasol
- 19 Hydref 2012
- 16 Hydref 2012
- 16 Hydref 2012
- 15 Hydref 2012
- 15 Hydref 2012