Enwi dynes feichiog fu farw
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd Heddlu Gogledd Cymru enw mam feichiog fu farw wedi damwain ffordd nos Lun.
Cafodd Christina Barchetti a'i babi yn y groth, Bella Clarke, eu lladd wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd yr A541 rhwng Wrecsam a'r Wyddgrug.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn fuan ar ôl 7pm ac aed â Miss Barchetti i Ysbyty Maelor Wrecsam lle bu farw.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol