Lloegr: Oedi wrth gyflwyno cynllun difa

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Yn 2011 fe roddodd Llywdraeth Cymru y gorau i gynllun difa

Mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu oedi cyn cyflwyno cynllun difa moch daear yn ne-orllewin Lloegr.

Gweinidog yr Amgylchedd Owen Paterson gyhoeddodd hyn.

Dywedodd y byddai'n cael ei gyflwyno'r haf nesaf wrth fynd i'r afael â'r diciâu mewn gwartheg.

Mae grwpiau fel yr Ymddiriedolaeth Moch Daear a'r Mudiad Rhag Atal Creulondeb i Anifeiliaid wedi beirniadu'r cynullun.

Dywedodd y gweinidog y byddai'r oedi'n sicrhau bod y cynllun yn gwbl gywir ac yn cael ei gyflwyno ar yr adeg orau.

Brechu

Y bwriad yw saethu moch daeaer mewn dwy ardal beilot.

Eleni penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â bwrw ymlaen gyda chynllun difa.

Yn lle hynny maen nhw'n brechu moch daear mewn Ardal Triniaeth Ddwys yng ngogledd Sir Benfro a rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yn 2011 fe roddodd Llywodraeth Cymru'r gorau i gynllun difa moch wedi her gyfreithiol.

Mae'r undebau wedi beirniadu'r penderfyniad i beidio ag ailgyflwyno cynllun difa.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol