Cynnal DNA ar weddillion corff mewn mynwent ym Mhorthaethwy
- Published
Mae'r heddlu ar Ynys Môn yn y broses o godi gweddillion o fedd er mwyn ceisio datrys dirgelwch dyn gafodd ei gladdu yno yn 1983.
Dywed yr heddlu fod datblygiadau ym mhrofion DNA yn golygu ei bod yn bosib y bydd modd adnabod pwy oedd y dyn a oedd yn ei 30au.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, bydd y gwaith o godi'r gweddillion o fynwent Porthaethwy yn dechrau ar Dachwedd 1.
"Y gobaith yw ein bod yn gallu adnabod y dyn ac yna trosglwyddo ei weddillion i'w deulu er mwyn iddyn nhw allu cynnal angladd ffurfiol."
Bydd y fynwent yn cael ei chau am ddiwrnod tra bod y gweddillion yn cael eu codi.
"Dyw amgylchiadau'r farwolaeth ddim yn amheus," meddai'r Ditectif Cwnstabl Don Kenyon.
"Ond rydym yn awyddus i allu adnabod y corff er mwyn rhoi gwybod i'r teulu.
"Byddwn yn cymharu samplau DNA gyda samplau rydym wedi eu cymryd o unigolion sydd o bosib yn aelodau o'r un teulu.
"Mae'r teulu dan sylw wedi cael gwybod ac yn gwbl gefnogol."
Mae disgwyl i'r heddlu gael gwybod am ganlyniadau profion DNA o fewn tair wythnos o godi'r gweddillion o'r bedd.