Ysgol Cwmcarn yn symud am weddill y flwyddyn i hen safle Coleg Gwent
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerffili wedi cyhoeddi y bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Cwmcarn yn symud am weddill y flwyddyn academaidd i hen safle Coleg Gwent ar gost o £1.5 miliwn.
Bu'n rhaid cau Ysgol Uwchradd Cwmcarn ar Hydref 12 oherwydd asbestos.
Aeth y Chweched Dosbarth yn ôl i'r ysgol, i floc newydd, ddydd Gwener ac mae'r cyngor wedi trefnu bod disgyblion Blwyddyn 11 yno hefyd.
Mewn cyfarfod ym mhencadlys y cyngor yn Ystrad Mynach brynhawn Mawrth cafodd y camau nesaf eu trafod.
Cydweithio
O Dachwedd 5 ymlaen bydd gwersi holl ddisgyblion yr ysgol ar hen gampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Passmore, deilydd addysg y bwrdd, eu bod wedi cydweithio gyda'r ysgol a'r corff llywodraethwyr i sicrhau bod modd i'r 900 o ddisgyblion a'r athrawon ddychwelyd cyn gynted â phosib.
"Mae'r cyngor llawn wedi cytuno ar y ffordd ymlaen ac wedi cymeradwyo £1.5 miliwn ar gyfer symud o Gwmcarn i Lyn Ebwy.
"Mae hyn yn dangos yn glir ein hymroddiad i ddatrys y broblem a lleihau anghyfleustra i'r ysgol.
"Ateb tymor byr yw hwn ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd.
"Fe fyddwn ni nawr yn edrych ar ateb tymor hir."
Opsiynau
Yn y cyfarfod roedd yr oriel gyhoeddus yn llawn o rieni a disgyblion, yn ôl Gohebydd Addysg BBC Cymru Gwenfair Griffith.
"Fe gaeodd safle Glyn Ebwy Coleg Gwent dri mis yn ôl.
"Clywodd y cyngor mai'r amser teithio fyddai 40 munud bob ffordd.
"Tra bod y gost yn uwch na'r hyn y byddai'r llywodraeth yn ei hargymell, roedd rhieni'n credu taw hwn oedd yr opsiwn gorau."
Roedd pedwar opsiwn o flaen cynghorwyr:
- Cynnig dosbarthiadau i ddisgyblion Blwyddyn 7-10 ar safle Ysgol Cwmcarn ac addysgu Blwyddyn 11-13 rywle arall;
- Symud y disgyblion i safleoedd ysgolion eraill o fewn Sir Caerffili;
- Cadw disgyblion Blwyddyn 11-13 ar safle Cwmcarn a symud y disgyblion ieuengaf i ysgolion eraill;
- Symud i hen gampws Coleg Gwent yng Nglyn Ebwy.
Y pedwerydd opsiwn oedd yn cael ei ffafrio gan gorff llywodraethu'r ysgol.
Ystyried chwalu
Yn y cyfamser, mae'r cyngor wedi derbyn cyngor arbenigwyr, ystyried chwalu'r adeilad oherwydd cost rheoli problem asbestos.
Mae disgwyl i'r cyngor gynnal cyfres o gyfarfodydd gyda rhieni'r wythnos hon.
Mae'r cyngor hefyd yn darparu gwybodaeth am faterion iechyd.
Oherwydd yr hyn ddigwyddodd yn yr ysgol roedd y Gweinidog Addysg wedi galw ar bob awdurdod i baratoi adroddiad erbyn yr wythnos hon am lefel asbestos mewn ysgolion.
Dywedodd fod dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion i gynnal arolygon blynyddol.
Straeon perthnasol
- 19 Hydref 2012
- 16 Hydref 2012
- 16 Hydref 2012
- 15 Hydref 2012
- 15 Hydref 2012