S4C yn dathlu'r 30 oed ar y sgrîn
- Published
Gydag S4C yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed eleni mae gan y sianel arlwy arbennig i nodi'r achlysur.
Bydd wythnos arbennig o raglenni
Tan yr wythnos ddiwethaf mae'r cyhoedd wedi cael cyfle i bleidleisio ar eu dewis nhw o 30 o hoff raglenni'r sianel mewn pum categori, plant, comedi, adloniant/cerddoriaeth, chwaraeon/digwyddiadau a drama.
Bydd y pum rhaglen yn cael eu darlledu bob nos yn ystod wythnos y pen-blwydd, rhwng Hydref 29 a Thachwedd 2.
Plant '82
Mae Plant y Sianel yn ôl ar y sgrin wrth i S4C ail-ymweld â chenhedlaeth o Gymry a aned yr un flwyddyn a'r Sianel, 1982.
Yng nghwmni'r ddarlledwraig Beti George cawn wybod beth ydi hanes y plant erbyn hyn, yn oedolion, rhai wedi priodi, rhai yn magu teulu, rhai wedi gwireddu breuddwydion ac eraill wedi wynebu trasiedïau ysgytwol.
Yn y rhaglen S4C30 bydd cyfle i ail-fyw rhai o uchafbwyntiau'r Sianel dros y tri degawd diwethaf.
Un o wynebau gwreiddiol y Sianel, Siân Thomas, fydd yn chwythu'r llwch oddi ar raglenni'r archif.
"Dyw e bendant ddim yn teimlo fel 30 o flynyddoedd," meddai Siân.
"Mae'n anodd credu a dweud y gwir, mae'n teimlo fel ddoe.
"Wrth wneud y rhaglen yma ac edrych yn ôl dwi wedi sylweddoli gymaint dwi wedi bod yn rhan ohono a pha mor freintiedig oeddwn i i gael bod yn rhan o'r noson gyntaf un.
"'Da ni'n genedl fechan ac mae'r Sianel yn un y dylen ni ymfalchïo ynddi. Mae wedi bod yn ddeg mlynedd ar hugain ffantastig."
Cyfraniad Gwynfor
A bydd un o raglenni arbennig yr wythnos yn mynd â ni yn ôl i gyfnod cyn i'r sianel fodoli i gyfnod oedd yn gwbl allweddol i'w sefydlu.
Mae Gwynfor, drama ddogfen newydd a ysgrifennwyd gan y llenor T. James Jones yn seiliedig ar flwyddyn dyngedfennol yn hanes Gwynfor Evans.
Yn ôl cynhyrchydd Gwynfor, Lona Llewelyn Davies, gallwn ddisgwyl portread "cynnes a sensitif o ddyn dewr a wnaeth benderfyniad ysgytwol".
Yn ystod yr wythnos hefyd bydd rhaglen arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o Rosllannerchrugog, a bydd Sam ar y Sgrin a'r Byd ar Bedwar hefyd yn paratoi eitemau arbennig.
Yn ôl Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr cynnwys S4C, "Mae'r gynulleidfa wedi bod yn ganolog i holl weithgareddau'r Sianel dros y 30 mlynedd diwethaf felly fel rhan o'r dathliadau rydym yn trosglwyddo oriau o'n hamserlen i'r gynulleidfa gyda'r gystadleuaeth archif.
"Gyda'r ddrama ddogfen bwysig, digon o gomedi a rhaglenni dogfen arbennig fe fydd rhywbeth i bawb fwynhau wrth i ni ddathlu pen-blwydd y Sianel. Cofiwch nad edrych yn ôl yn unig fyddwn ni; mae llu o raglenni a chyfresi newydd ar y gweill hefyd."
Bydd y cyfan yn dechrau nos Sadwrn wrth i ffilm Hedd Wyn gael ei hail-ddarlledu.
Dyma'r ffilm gyntaf Cymraeg i gael enwebiad am Oscar.
- Bydd rhaglen arbennig o Stiwdio am hanes S4C ar BBC Radio Cymru ddydd Iau am 2pm.