Caerdydd 2-1 Watford
- Cyhoeddwyd

Caerdydd 2-1 Watford
Gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau roddodd y fuddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Watford yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Mae gan Gaerdydd record 100 y 100 yn y Bencampwriaeth adref, a dyma dorri eu record o sicrhau chwe buddugoliaeth o'r bron adref.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen gydag ergyd gan Tommie Hoban wedi 28 munud cyn i Gaerdydd daro'n ôl gyda Peter Whittingham yn cicio o'r smotyn wedi 71 munud.
Roedd Jonathan Hogg wedi llawio'r bêl.
Dyma oedd seithfed gôl Whittingham y tymor yma.
Ond wedi 20 munud llwyddodd Aron Gunnarsson i ganfod cefn y rhwyd a rhoi tri phwynt i dîm Malky Mackay.
Am yr 20 munud olaf dim ond 9 dyn oedd gan dîm Gianfranco Zola ar y cau wedi i Nathaniel Chalobah dderbyn ei ail gerdyn melyn yn y gêm rhyw 10 munud ar ôl i Daniel Pudil weld y cerdyn coch.
'Torri'r amddiffyniad'
Roedd Craig Bellamy a Craig Noone yn ôl yng ngharfan Caerdydd wrth i ebn turner gychwyn ei drydedd gêm yn unig y tymor yma.
Roedd Bellamy yn edrych yn fywiog yn fuan yn y gêm ac yn credu y dylai'r tîm fod wedi cael cic o'r smotyn wedi i'w rediad gael ei atal gan Marco Cassetti.
Wedi i Watford sgorio roedd y tîm cartref yn ei chael yn anodd torri amddiffyniad trefnus yr ymwelwyr.
Nhw oedd yn edrych fwya bygythiol ar yr hanner.
Wedi'r gwrthdaro gyda Cassetti cafodd Bellamy driniaeth ond wnaeth o ddim dod ar y cae yn yr ail hanner i'r tîm cartref gyda Joe Mason yn ei le.
Fe allai Watford fod wedi mynd ymhellach ar y blaen wedi 10 munud o'r ail hanner pan orfododd Alex Geijo geidwad Caerdydd, David Marshall i ymestyn i arbed y bêl.
Er eu buddugoliaeth mae Caerdydd yn parhau yn ail yn y tabl ond yn dal yn gobeithio am ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair y tymor nesa'.
Straeon perthnasol
- 20 Hydref 2012
- 2 Hydref 2012
- 22 Medi 2012