Casnewydd 1-3 Yate
- Cyhoeddwyd
Casnewydd 1-3 Yate
Fydd Casnewydd ddim yn cystadlu yng Nghwpan FA Lloegr y tymor yma ar ôl colli yn y gêm ail chwarae pedwaredd rownd rhagbrofol y cwpan.
Fe lwyddodd Yate o waelod Adran Un y De a'r Gorllewin i daro'n ôl a synnu tîm Justin Edinburgh sydd ar frig Uwchgynghrair Blue Square.
Mae 'na 90 lle rhwng y ddau dîm wrth i Yate baratoi i wynebu Cheltenham yn Rownd Gyntaf y gwpan fis nesa'.
Dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd y gystadleuaeth.
Roedd y ddau dîm wedi cael gêm gyfartal 3-3 ddydd Sadwrn yn Yate.
Roedd Casnewydd ar y blaen wedi i Aaron O'Connor ergydio'n gywir, ei 12fed gôl y tymor yma.
Ond roedd Casnewydd i lawr i 10 dyn wedi i'w capten, David Pipe gael ei anfon oddi ar y cae am ei ail drosedd.
Fe wnaeth yr ymwelwyr daro'n ôl gyda gôl gan Tom Knighton o'r smotyn.
Daeth dwy gôl wedyn i'r ymwelwyr yn yr amser ychwanegol, un i Scott Thomas a'r llall i Matt Groves.
Bydd Casnewydd yn siomedig, ond yn canolbwyntio ar barhau ar frig y gynghrair ac ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor i Ail Adran y Gynghrair.
Straeon perthnasol
- 20 Hydref 2012
- 24 Hydref 2012