Gwaith celf yn deyrnged i'r diwydiant llechi
- Published
Teyrnged i'r diwydiant llechi yng Nghymru, y chwarelwyr fu ac sy'n parhau i fod yn rhan greiddiol ohono ydi'r hyn sy'n rhan ganolog i gynllun diweddar i adfywio Blaenau Ffestiniog.
Mae llechi gyda geiriau perthnasol i'r ardal i'w gweld ar balmentydd canol y dref ac mae 'na golofnau o lechi wedi codi yno hefyd.
Yr artist Howard Bowcott fu'n gyfrifol am y gwaith yn ei weithdy ym Mhenrhyndeudraeth.
Mae'r gwaith yn cynnwys motiff arbennig o afon, sy'n symbol o'r ffordd y crëwyd llechi gan rymoedd daearegol hynafol dros 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Bydd y gwaith hefyd yn ymgorffori'r Afon Dwyryd gyfagos, yr afon a ddefnyddiwyd i gludo'r llechi o'r Blaenau i'r arfordir cyn adeiladu Rheilffordd Ffestiniog.
Y bardd Gwyn Thomas, sy'n enedigol o'r dref, fu'n gyfrifol am gyfansoddi darn o farddoniaeth arbennig ar gyfer yr afon lechi (rhan o'r dyluniad).
Mae'n cynnwys y llinellau: "Llifa amser yn ei flaen, /A llifa dŵr: /Ni lifa bywyd creigiwr."
Y naill ochr i'r afon mae enwau dros 360 o chwareli llechi wedi cael eu hengrafu gan Alan Hicks o gwmni Lechen Las, Blaenau Ffestiniog.
'Ffordd o fyw'
Mae'r dyluniad yn defnyddio nifer o lechi lliwiau gwahanol o chwareli ar draws Gymru, gyda phob enw wedi ei osod ar lechen lliw gwahanol, yn gyfatebol i liw'r llechen a gynhyrchir yn y chwarel honno.
"Mae'r dyluniad creadigol hwn yn arddangos pwysigrwydd y diwydiant llechi i economi a thirwedd Cymru yn ogystal â ffordd o fyw," meddai'r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, sy'n cynrychioli ward Diffwys a Maenofferen Blaenau Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd.
Ychwanegodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros yr Economi a Chymuned: "Drwy restru enwau'r chwareli mae maint y diwydiant yn dod yn fyw.
"Rydym yn cofio am y dynion fu'n gweithio yn y diwydiant a'r rhai a gollodd eu bywydau o ganlyniad.
"Gobeithio y bydd y dyluniad yn atgoffa pobl am flynyddoedd i ddod o bwysigrwydd y chwareli i'n hanes, diwylliant a'n treftadaeth."
Mae prosiect adfywio Blaenau Ffestiniog yn gynllun £4.4 miliwn wedi'i anelu at greu lleoliad siopa, yn ogystal â datblygu'r dref i fod yn gyrchfan ymwelwyr o bwys.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Hydref 2012
- Published
- 14 Gorffennaf 2012
- Published
- 14 Rhagfyr 2011
- Published
- 4 Chwefror 2011
- Published
- 16 Mehefin 2011
- Published
- 8 Mawrth 2012
- Published
- 28 Gorffennaf 2012