Norofirws: Tair ward wedi cau yn Hwlffordd
- Cyhoeddwyd

Mae tair ward wedi eu cau yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, oherwydd bod rhai o'r cleifion yn dioddef o'r dolur rhydd a chwydu.
Mae rhai achosion o'r salwch stumog Norofirws wedi cael eu cadarnhau ymhlith y rhai sy'n sal.
Mae ward saith, uned ddwys gofal y galon ac uned gofal y galon wedi cau.
Hefyd mae yna gyfyngiadau ar ymwelwyr yng ngweddill yr ysbyty.
Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn apelio ar y cyhoedd i beidio ag ymweld â'r ysbyty ar hyn o bryd.
Mae'r bwrdd wedi gofyn i berthnasau cleifion ffonio'r wardiau cyn ymweld.
Mae Norofirws, sy'n lledu oherwydd cysylltiad â pherson neu wrthrych wedi ei heintio, yn effeithio ar hyd at filiwn o bobl y flwyddyn ym Mhrydain.
Golchi'r dwylo yw'r ffordd orau i atal lledu'r firws sydd, fel arfer, yn dod i ben o fewn 48 awr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012