Aelodau'r Cynulliad yn gwrthod treth 5c ar bacedi gwm cnoi
- Cyhoeddwyd

Methiant oedd cynnig gan y Ceidwadwr Darren Millar - Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd - i godi 5 ceiniog ychwanegol ar bris paced o gwm cnoi.
Byddai hynny'n ffordd, meddai Mr Millar, o leihau'r gost o glirio'r gwm cnoi oddi ar balmentydd mewn llefydd cyhoeddus.
Pleidleisiodd 30 o ACau yn erbyn y cynnig gyda 17 yn pleidleisio o'i blaid.
Pwrpas y ddadl oedd penderfynu a ddylai Mr Millar gael caniatâd ai peidio i gyflwyno ei fesur preifat gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Llygredd
Mesur preifat fyddai gan Mr Millar ac yn ystod y ddadl, doedd y Gweinidog Amgylchedd, John Griffiths, ddim yn fodlon ymrwymo'r Llywodraeth.
Yn wir, byrdwn araith Mr Griffiths oedd y byddai'r Llywodraeth yn gwrthwynebu codi'r 5 ceiniog er mwyn rhoi'r cyfle i gwmnïau sy'n cynhyrchu gwm cnoi i ddatrys y broblem amgylcheddol mae'r gwm yn creu.
Mae Mr Griffiths o'r farn mae'r cwmnïau, ac nid y cyhoedd, ddylai ysgwyddo'r gost o glirio problem sydd ar gynnydd.
"Dwi'n bendant," meddai'r Gweinidog, "y dylai'r cynhyrchwyr wneud llawer mwy i ddatrys y broblem.
"Mae'n costio cannoedd o filoedd o bunnau i gynghorau lleol ac mae'r llygredd yn creu'r ymdeimlad fod ardal yn 'mynd ai ben iddo'."
Trafodaethau
Roedd Mr Millar eisoes wedi cynnal cyfarfod gyda chynrychiolwyr cwmni Wrigley's, sef un o'r cynhyrchwyr mwyaf yn y diwydiant.
Mynegodd Sian O'Keefe, Pennaeth Materion Corfforaethol y cwmni, mai'r ffordd i ddatrys y broblem oedd drwy addysgu'r cyhoedd, ac na fyddai'r gost ychwanegol yn gweithio.
Roedd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod y mater wedi i Mr Millar lwyddo mewn pleidlais o blith aelodau'r Cynulliad i weld pwy fyddai'n cael yr hawl i gynnig Mesur Preifat ar bwnc o'u dewis.
"Mae gwm cnoi yn bla ar y strydoedd," meddai.
"Mi fyddai cost o 5 ceiniog ar bob paced yn un ffordd o fynd i'r afael â phroblem sydd ar gynnydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012