Cyfle i brynu hen orsaf heddlu a llys ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y tai sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru ar gynnydd, ond mewn ocsiwn yng Nghaerdydd ddydd Iau bydd cyfle i brynu eiddo unigryw.
Un eiddo fydd ar werth yw hen orsaf heddlu ym Mhowys, ac mae'r hen lys barn a chelloedd yn rhan o'r eiddo.
Mae'r Hen Dŷ Llys ar Stryd y Gorllewin yn Rhaeadr Gwy yn adeilad cofrestredig Gradd II.
Tan yn ddiweddar roedd yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gwerthu henebion gyda lle i fyw yn y llofft.
Dywed yr arwerthwyr, Paul Fosh Auctions, bod yr eiddo yn cynnig ei hun i amrywiaeth eang o ddefnyddiau, a bod caniatâd cynllunio i'w newid i fod yn gartref.
Yn yr adeilad mae dwy gell heddlu, ystafell llys barn a gweithdy, a'r pris sydd wedi ei osod fel canllaw ar gyfer yr eiddo yw £125,000.
"Mae nifer o adeiladau unigryw yn rhan o'r ocsiwn y tro hwn," meddai Mr Fosh.
"Mae'n debyg y bydd llawer o ddiddordeb gan bobl sydd am brynu gorsaf heddlu a llys barn."
Bydd yr ocsiwn yn dechrau yng Ngwesty'r Park Inn yn Llanedeyrn, Caerdydd, am 5pm ddydd Iau.