Dechrau codi gwaith treulio gwastraff Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Gwastraff bwyd
Disgrifiad o’r llun,
Bydd cynllun GwyriAD yn trin gwastraff bwyd gan yr awdurdod lleol yng Ngwynedd

Cafodd y dywarchen gyntaf ei thorri wrth adeiladu'r gwaith treuliad anaerobig cyntaf yng Nghymru ar safle o eiddo Cyngor Gwynedd yn Llwyn Isaf, Clynnog Fawr ger Caernarfon.

Perfformiwyd seremoni torri'r dywarchen gyntaf ar gyfer cynllun GwyriAD gan Weinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths.

Bydd gwaith GwyriAD yn trin 11,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn.

Cwmni BIOGEN yw un o'r cwmnïau amlycaf yn y maes yn y DU, a nhw fydd adeiladwyr, perchnogion a gweithredwyr y gwaith newydd ar ran Cyngor Gwynedd.

Trydan

Bydd y gwaith yn prosesu gwastraff bwyd a gasglwyd o gartrefi'r sir gan y Cyngor, ynghyd â gwastraff o fusnesau'r rhanbarth.

Bydd prosesu'r gwastraff yn cynhyrchu trydan adnewyddol i'r grid cenedlaethol a bio wrtaith i'w daenu ar ffermdir lleol.

Mae gwaith GwyriAD yn cael ei godi ger hen safle tirlenwi Llwyn Isaf.

Bydd yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer tua 700 o gartrefi bob blwyddyn.

Dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd y gwaith hefyd o gymorth i leihau'n sylweddol y gwastraff y mae'r cyngor yn ei anfon ar hyn o bryd i safleoedd tirlenwi.

Disgwylir gorffen y gwaith £5 miliwn ar amser erbyn canol 2013 a dechrau cynhyrchu trydan erbyn diwedd yr haf.

'Cynnig atebion'

"Rwy'n falch o'r cyfle heddiw i ymweld â Llwyn Isaf i ddathlu dechrau cyfnod adeiladu Prosiect GwyriAD," meddai Mr Griffiths.

"Hwn yw'r cynllun treuliad anaerobig cyntaf yng Nghymru sy'n trin gwastraff bwyd awdurdod lleol.

"Bydd prosiect GwyriAD yn cynnig atebion tymor hir a chynaliadwy i'r angen i drin gwastraff bwyd yng Ngwynedd.

"O ganlyniad, ni fydd raid claddu 11,000 tunnell y flwyddyn o wastraff bwyd mewn safleoedd tirlenwi, a bydd y gwaith yn cynhyrchu digon o drydan bob blwyddyn ar gyfer tref o 700 o dai - lle o faint tebyg i Benygroes.

"Mae ein buddsoddiad mewn technolegau gwyrdd hefyd yn creu manteision economaidd hir dymor i bobl Cymru.

"Bydd prosiect GwyriAD yn cynnig swyddi a chyfleoedd ychwanegol i'r ardal.

"Nid yn unig y bydd swyddi'n cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu, ond hefyd swyddi parhaol wedi i'r gwaith prosesu ddechrau flwyddyn nesaf."

Sector preifat

Dywedodd John Ibbett, Cadeirydd BIOGEN: "Mae adeiladu gwaith GwyriAD yn ffrwyth partneriaeth ardderchog rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, trigolion y sir a'r sector preifat.

"Y cwmnïau preifat yn yr achos hwn yw BIOGEN a phrif arianwyr y prosiect, Iona Capital.

"Mae'r cynllun yn enghraifft dda o gydweithio - un y gobeithiwn ei efelychu ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig."

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd, Y Cynghorydd Gareth Roberts, bod hwn yn gynllun cyffrous.

"Gwaith GwyriAD fydd y cyntaf o'i fath gan un o gynghorau Cymru.

"Mae'n tanlinellu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i ganfod dulliau gwyrdd o ddelio â gwastraff bwyd y sir.

"Yn ogystal â phrosesu mwy na 200 tunnell o wastraff bwyd bob wythnos mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol, bydd y gwaith yn cynhyrchu tua 9,000 tunnell o fio-wrtaith y flwyddyn, a daenir ar ffermdir lleol, a thrydan gwyrdd a werthir i'r grid cenedlaethol."

Cafodd y gwaith ei ariannu gan Gyngor Gwynedd, BIOGEN, Iona Capital a Llywodraeth Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol