'Anrhydedd' actor i chwarae rhan Gwynfor Evans

  • Cyhoeddwyd
Aneirin Hughes fel Gwynfor EvansFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,
Aneirin Hughes sy'n portreadu'r gwleidydd Gwynfor Evans

Mae'r actor Aneirin Hughes yn dweud ei bod yn "anrhydedd enfawr" cael chwarae rhan y gwleidydd Gwynfor Evans.

Bydd i'w weld mewn drama ddogfen ar S4C fel rhan o ddathliadau penblwydd y sianel yn 30 oed.

Mae Gwynfor: Y Penderfyniad yn bortread trwy ddrama, archif ac atgofion o benderfyniad y cenedlaetholwr i wneud safiad dadleuol yn yr ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg.

Cafodd ei hysgrifennu gan yr Archdderwydd T James Jones a'i chynhyrchu gan gwmni Apollo ac yn edrych ar flwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans.

Dywedodd yr actor 54 oed, sy'n wreiddiol o Benybontrhydybeddau ger Penrhyn-coch, y byddai wrth ei fodd yn chwarae rhan Gwynfor petai ffilm yn cael ei chynhyrchu am fywyd yr heddychwr a'r cenedlaetholwr amlwg.

"Roedd hi'n anrhydedd enfawr gael cynnig y rhan. Roeddwn yn ymwybodol o bwysigrwydd Gwynfor Evans o oedran ifanc," meddai.

'Proffil uchel'

"Roedd yn arwr i fy nhad ac roedd ei lun ar y wal uwchben ei gadair freichiau gartref.

"Roedd yn her anodd ei bortreadu am fod Gwynfor mor adnabyddus â'i broffil mor uchel ar y funud a hithau'n adeg 30 mlwyddiant S4C.

"Doedd e ddim yn rhwydd achos ei fod yn un tawel ei fynegiant ac yn bersonoliaeth cerebral, er bod ganddo wên hyfryd a phenderfyniad yn aml yn ei wyneb."

Dywed iddo fwynhau gweithio ar sgript T. James Jones, fel y gwnaeth wrth bortreadu'r hyfforddwr rygbi Carwyn James yn y ddrama ddogfen Carwyn a ddarlledwyd ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Gwynfor Evans wedi cyhoeddi y byddai'n ymprydio hyd farwolaeth yn y frwydr i sefydlu S4c

"Rwy'n edmygydd mawr o Gwynfor," ychwanwegodd.

"Fe astudiais i hen dapiau, darllen rhai o'r llythyron a ysgrifennodd pan wnaeth y penderfyniad i ymprydio, ac ailddarllen ei glasur 'Aros Mae' wrth baratoi ar gyfer chwarae'r rhan."

Roedd o'n y coleg yn Aberystwyth pan wnaeth Gwynfor y penderfyniad i ymprydio.

"Roedd yn fuan ar ôl Refferendwm 1979 ac roeddwn yn ei edmygu am ei safiad. Roedd yn un o'r ychydig bobl allai danio pobl Cymru," eglurodd.

"Dyw pobl ddim bob amser yn sylweddoli beth lwyddodd e i wneud.

"Mae wedi rhoi trysor amhrisiadwy i ni.

"Heb S4C ni fyddai'r iaith mewn cystal gyflwr.

"Ei neges oedd ein bod yn gallu sefyll ar ein traed ein hun fel gwlad."

Gwynfor: Y Portread ar S4C nos Sul Tachwedd 4 am 9pm.