Cofio Alan Turing mewn gŵyl ddigidol
- Published
Bydd y mathemategwr Alan Turing yn cael ei gofio yn ystod gŵyl o gelfyddyd ddigidol yng Nghonwy eleni.
Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen o ddathliadau can mlynedd ers i Turing - oedd yn arloeswr ym maes cyfrifiaduron yn ogystal â'i gyfraniad enwog i ddatrys codau'r Almaenwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd - gael ei eni.
Dywedodd Joel Cockrill, un o guraduron yr ŵyl, na allai digwyddiad digidol o'r fath fod wedi bodoli heb waith Turing.
"Dydy pobl ddim yn sylweddoli mor ddylanwadol ydoedd," meddai.
"Fe helpodd ei waith mathemategol i dorri côd yr Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac arweiniodd ei waith at ddatblygiad cyfrifiaduron modern.
"Dywedodd Barack Obama ei bod mor ddylanwadol â Newton a Darwin," ychwanegodd.
Cafodd Alan Turing ei eni yn Llundain a bu farw yn Sir Gaer yn 1954 ond dywedodd Mr Cockrill bod ganddo gysylltiadau â gogledd Cymru.
"Roedd ganddo ffrindiau oedd yn byw ar ystâd Portmeirion ac roedd yn treulio llawer o amser yno," meddai.
Bydd yr ŵyl, Blinc, yn cael ei chynnal mewn wyth gwahanol leoliad yn nhref Conwy gan ddefnyddio waliau adeiladau megis y castell i ddangos gweithiau digidol.
Bydd gwaith nifer o artistiaid, gan gynnwys y Cymro Bedwyr Williams, i'w weld yn ystod yr ŵyl.
Dywedodd Mr Cockrill bod dathlu gwaith Alan Turing yn ystod yr ŵyl yn ffordd o ddiolch i'r mathemategwr.
"Does erioed wedi bod unrhyw ddigwyddiad swyddogol sydd yn diolch i Alan Turing am ei waith," meddai.
"Dyna pam rydyn ni'n ei gynnwys fel rhan o Blinc eleni."
Bydd gŵyl Blinc yn digwydd o 7 - 10pm ar 26 - 28 Hydref.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Hydref 2011