Atal cynllun troseddwyr yn y gogledd dros dro

  • Cyhoeddwyd
Carchar
Disgrifiad o’r llun,
Yn ôl Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r cynlluniau yng Nghymru a Lloegr wedi eu hatal dros dro.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu bod wedi atal cynllun ailsefydlu troseddwyr yn y gogledd dros dro wrth i'r Prif Weinidog ganmol y polisi.

Mae prosiect peilot y gwasanaeth prawf yn golygu bod sefydliadau'n cael eu talu am sicrhau nad yw cyn-droseddwyr yn mynd yn ôl i'r carchar.

Dydd Mercher dywedodd David Cameron wrth Aelodau Seneddol ei fod am gyflwyno'r cynlluniau ar draws y system cyfiawnder troseddol.

Ond yn ôl Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae'r cynlluniau yng Nghymru a Lloegr wedi eu hatal dros dro.

'Treialu'

Mae Ymddiriedolaeth Prawf Cymru wedi dweud wrth Aelodau Seneddol fod y cynllun yn y gogledd wedi ei atal dros dro oherwydd cyfarwyddyd gweinidogion Y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Dywedodd Ian Lucas, Aelod Seneddol y Blaid Lafur sy'n cynrychioli Wrecsam: "Dywedodd y Prif Weinidog ei fod am i'r cynlluniau lwyddo.

"Ond mae cynllun o'r fath sy'n cael ei dreialu mewn ardaloedd, gan gynnwys Gogledd Cymru, wedi cael ei atal dros dro gan ei dîm sy'n rhedeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

"Dyw e ddim yn amlwg pam fod y cynllun wedi cael ei atal dros dro, beth fydd cost yr oedi ac os neu pryd y bydd y prosiect yn ail-ddechrau."

Ychwanegodd Mr Lucas y byddai'n pwyso ar y llywodraeth i gael atebion i'w cwestiynau.

'Ehangu'r prosiect'

Cafodd y cynllun yn y gogledd ei lansio ym mis Ionawr pan benderfynwyd y dylai Ymddiriedolaeth Prawf Cymru redeg un o'r ddau gynllun rhagbrofol yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r ymddiriedolaeth yn derbyn arian os yw llai o droseddwyr yn ail-droseddu.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym wedi ymrwymo i ledu egwyddorion talu am ganlyniadau ar draws y system cyfiawnder troseddol erbyn 2015.

"Ond mae cyflwyno'r cynlluniau rhagbrofol newydd wedi eu hatal dros dro wrth inni gadarnhau ein cynlluniau i ehangu'r prosiect.

"Mae hwn yn fater cymhleth gyda'r potensial i newid sut rydym yn lleihau troseddu ac ailsefydlu troseddwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol