Ffrae ynglŷn â safle stondinwyr Caerfyrddin
- Published
Mae yna alw am gael symud stondinwyr o un o brif strydoedd Caerfyrddin.
Yn wreiddiol y bwriad oedd lleoli stondinwyr yn Heol Goch fel mesur dros dro tra bod neuadd marchnad newydd yn cael ei chodi.
Cafodd y farchnad newydd ei hagor tair blynedd yn ôl a nawr mae rhai siopau lleol yn dweud fod y stondinau yn rhwystr ac yn effeithio ar eu busnes.
Maen nhw hefyd yn honni bod rhai o'r stondinau yn gwerthu'r math anghywir o nwyddau.
Dywed Matt Davies, cadeirydd Siambr Fasnach Caerfyrddin, ei bod yn amser o bosib i ailfeddwl.
"Dwi ddim yn erbyn y farchnad, ac rwy'n hoffi'r syniad o farchnad awyr agored - ond os yw e'n rhan o'r farchnad yna dyle gael ei lleoli yn y farchnad.
"Doedd neb yn ei herbyn ond maen nhw'n cuddio siopau, ac mae perchnogion y siopau yn talu treth."
Nwyddau
Cafodd marchnad newydd ei chodi fel rhan o gynllun i adnewyddu canol y dref, ond mae nifer o stondinwyr wedi penderfynu aros yn Heol Goch.
Dywedodd Mike Pugh, rheolwr Rhodfa Santes Catrin, fod ganddo bryderon eraill am y sefyllfa.
"Rwy'n hapus gyda'r stondinau yn Heol Goch, ond y nwyddau sy'n fy mhoeni.
"Dylai'r farchnad ddarparu nwyddau ffres lleol.
"Ond yn hytrach mae'r rhan fwyaf o bethau sy'n cael eu gwerthu yn bethau fel DVD's, dillad a bagiau llaw."
Dywed Cyngor Sir Gaerfyrddin fod yna ganiatâd cynllunio gan y stondinwyr i ddefnyddio'r safle ar Heol Goch.
"Ni fyddai yna ddigon o le yn y farchnad dan do pe bai pawb yn mynd yno," meddai Jonathan Fearn, pennaeth eiddo corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin.
Straeon perthnasol
- Published
- 5 Ionawr 2004