Achub disgyblion ac athro o gopa'r Wyddfa
- Published
Cafodd grŵp o ddisgyblion o ganolbarth Lloegr a'u hathro eu hachub o gopa'r Wyddfa nos Iau.
Roedd y disgyblion rhwng 13 a 15 oed wedi mynd ar goll ac wedi cyrraedd 980 metr o uchder.
Cafodd timau achub wybod am 4.30pm ac aeth 25 o aelodau Tîm Achub Mynydd Llanberis i chwilio.
"Roedd y grŵp wedi gwneud camgymeriad ar y llwybr ac mewn sefyllfa beryglus," meddai ysgrifennydd y tîm achub, Phil Benbow.
"Mi ddefnyddion ni raffau wrth eu harwain i lawr y mynydd.
"Maen nhw i gyd yn saff ond roedden nhw'n wlyb iawn ac wedi diflasu.
"Roedd y tîm ar y mynydd tan 1.30am ddydd Gwener."