Mewn Llun: S4C o'r dyddiau cynnar hyd heddiw
- Cyhoeddwyd

Sefydlwyd S4C yn 1982. Lleolwyd y cartref cyntaf yng Nghlos Soffia, Pontcanna, Caerdydd.

Owen Edwards wnaeth groesawu'r Cymry i noson gyntaf y sianel ar Dachwedd 1 1982. Darlledwyd rhaglenni noson cyn i Channel 4 lansio ar Dachwedd 2.
Owen Edwards oedd cyfarwyddwr cyntaf y sianel a bu wrth y llyw am y saith mlynedd cyntaf. Mae Geraint Stanley Jones, Huw Jones, Iona Jones, Arwel Ellis Owen ac Ian Jones wedi ei olynnu.
Swyddfa S4C yng Nghlos Soffia ar y noson gyntaf, Tachwedd 1 1982 pan gafwyd "croeso cynnes i aelwyd Sianel Pedwar Cymru".
Y rhaglen gyntaf i'w darlledu ar y sianel oedd SuperTed
Siân Thomas oedd un o gyflwynwyr cyntaf y sianel ac mae hi'n dal i'w gweld yn cyflwyno ar y sianel 30 mlynedd yn ddiweddarach.
Mae S4C bellach wedi ymgartrefu ym Mharc Tŷ Glas Llanisien, Caerdydd, erbyn hyn ac mae ganddi swyddfa hefyd yng Nghaernarfon
Dros y blynyddoedd mae'r sianel wedi cael sawl delwedd ond mae'r s y 4 a'r c yno'n amlwg.
Yn ogystal â ffilmio rhaglenni mae 'na waith pwysig yn cael ei wneud i baratoi ymgyrchoedd hyrwyddo brand S4C. Mae hwn yn cynnwys nifer o bygis golff.
Yr utgorn a'r fflam yn lansio un arall o ymgyrchoedd hyrwyddo a brandio'r sianel
Mae 'na lot o waith yn cael ei wneud y tu ôl i'r lleni i sicrhau cyflwyno rhaglenni'r sianel fel y ddrama boblogaidd Gwaith Cartref