BBC Cymru Fyw

Caeredin 28-29 Scarlets

Published
image copyrightSNS
Cic gosb Rhys Priestland yn y munudau olaf wnaeth sicrhau buddugoliaeth drwch blewyn i'r Scarlets yn erbyn Caeredin.
Er i Tim Visser sgorio cais cynnar i'r tîm cartref y Scarlets oedd ar y blaen ar yr egwyl o 26-19.
Croesodd Geroge North ddwywaith, ac roedd hynny ynghyd a cheisiadau gan Nick Reynolds a Gareth Davies yn ddigon i sicrhau pwynt bonws.
Mae'r canlyniad yn golygu fod y Scarlets yn codi i'r ail safle.
Y Dreigiau 19-46 Ulster
Sgoriodd Ulster chwe chais wrth sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus yn erbyn y Dreigiau.
Daeth unig gais y Dreigiau yn yr hanner cyntaf gan Andy Tuilagi, ond roedd yna geisiau gan Tom Court, Nick Williams a Ruan Pienaar i'r ymwelwyr.
Yn yr ail hanner fe groesodd Darren Cave, Andrew Trimble a Jaren Payne i'r Gwyddelod.