Airbus 2-1 Seintiau Newydd
- Published
image copyrightNot Specified
Airbus 2-1 Seintiau Newydd
Sgoriodd Chris Budrys i roi'r tîm cartref ar y blaen ond fe ddaeth y Seintiau yn gyfartal drwy Aeron Edwards.
Ian Kearney wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i'r gwŷr o Frychdyn.
Cei Connah 2-6 Bangor
Er i'r tîm cartref fynd ar y blaen diolch i Michael Robinson ar ôl 20 munud noson Bangor oedd hon i fod.
Daeth goliau Bangor diolch i Peter Hoy a Chris Simm cyn i Alan Hooley roi'r bêl i rwyd ei hun. Yna sgoriodd Les Davies (2) a Chris Jones i Fangor
Sgoriodd Jamie Petrie gôl gysur i Cei Connah dwy funud cyn y diwedd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol