Dynes 23 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i leoliad y ddamwain tua 11pm nos Wener
Mae dynes 23 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ffordd rhwng dau gerbyd yn Sir Gaerfyrddin.
Roedd y ddynes yn gyrru un o'r ddau gar a fu yn y ddamwain ar yr A40 rhwng Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 11pm nos Wener.
Aed a phedwar o bobl, gan gynnwys dau o blant, oedd yn teithio yn y car arall i Ysbyty Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.
Credir nad ydi eu hanafiadau yn rhai difrifol.
Roedd y ddynes a fu farw yn byw yn lleol ac mae ei theulu wedi cael gwybod.
Roedd hi'n teithio ar ei phen ei hun ar y pryd.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i gysylltu gydag Uned Plismona Ffyrdd Sir Gaerfyrddin ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol