Gohirio gêm Wrecsam yn Braintree
- Cyhoeddwyd
Oherwydd bod y cae o dan ddŵr mae gêm Wrecsam yn Uwchgynghrair Blue Square wedi ei ohirio.
Roedd y Dreigiau, sy'n ail yn y gynghrair, wedi teithio i wynebu Braintree.
Dywedodd y sylwebydd Owain Llŷr bod y dyfarnwr wedi penderfynu bod gormod o ddwr ar y cae.
"Mae hi wedi bwrw glaw yn drwm yma nos Wener a wedyn bore 'ma," meddai o'r maes.
"Roedd 'na archwiliad o'r cae am 1.20pm a'r dyfarnwr yn fodlon i'r gêm fynd ymlaen.
"Ond ers hynny mae hi wedi bwrw yn drwm ac fe wnaeth y dyfarnwr ddweud na fyddai'r gêm ymlaen toc cyn 2pm."
Dywedodd bod swyddogion clwb Braintree yn awyddus i sicrhau bod y gêm yn erbyn Tranmere Rovers yr wythnos nesa, yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr, yn mynd yn ei blaen.
"Mae hi'n fyw ar y teledu a'r clwb yn mynd i elwa tua £100,000 oherwydd hynny," ychwanegodd Owain Llŷr.