Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Published
image copyrightNot Specified

Lido Afan 2-4 Prestatyn

Mae Prestatyn yn ôl ar frig Uwchgynghrair Cymru ar ôl cael buddugoliaeth o 4-2 oddi cartref yn Lido Afan.

Anthony Rawlings gafodd ddwy gôl y tîm cartref chwarter awr wedi'r ail hanner a'r ddwy mewn 10 munud.

Roedd Prestatyn eisoes wedi mynd ar y blaen wrth i Andy Parkinson sgorio wedi 26 munud cyn rhwydo eto wedi 38 munud.

Rhoddodd Jason Price fantais bellach i'r ymwelwyr wedi 54 munud cyn i David Hayes ergydio am bedwaredd gôl Prestatyn.

Aberystwyth 1-0 Caerfyrddin

Craig Hanford gafodd unig gôl y gêm wedi 63 munud.

Ond yn anffodus iddo, fe sgoriodd yn ei rwyd ei hun er mwyn rhoi buddugoliaeth i'r tîm cartref.

Y Drenewydd 1-1 Y Bala

Dau o chwaraewyr Y Drewnewydd wnaeth rwydo, Luke Boundford wedi 36 munud ac yna Andy Jones yn rhwydo i'w gôl ei hun i sicrhau gêm gyfartal wedi 52 munud.

Roedd yr ymwelwyr i lawr i 10 dyn wedi i Stephen Brown weld cerdyn coch wedi 75 munud.

Llanelli 0-1 Port Talbot

Bu'n rhaid aros tan y munudau olaf cyn i'r ymwelwyr sgorio wrth i Daniel Thomas rwydo yn yr 89fed munud.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol