Y Gweilch 26-9 Connacht
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Y Gweilch 26-9 Connacht
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth am y pedwerydd tro o'r bron yng nghynghrair y Pro12 yn erbyn Connacht.
Cafodd y pencampwyr bwynt bonws ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar y gynghrair.
Yr asgellwr Eli Walker gafodd y pwyntiau cyntaf gyda chais cyn i Justin Tipuric groesi.
Fe wnaeth Jonathan Thomas ryng-gipio pas gan Dan Parks i gael trydydd cais y tîm cartref.
Roedd meddwl cyflym Kahn Fotuali'i yn sicrhau'r pwynt bonws i'r tîm o Gymru.
Fe ychwanegodd Dan Biggar chwe phwynt gyda throsiadau ond methodd y maswr dibynadwy gyda throsiad a chic gosb.
Parks gafodd holl bwyntiau'r ymwelwyr, tair cic gosb.
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol