Leinster 59-22 Gleision
- Cyhoeddwyd

Leinster 59-22 Gleision
Colli oedd hanes Y Gleision yn erbyn Leinster yn Nulyn nos Sadwrn yn y Pro12.
Er eu buddugoliaeth roedd 'na ergyd i'r Gwyddelod wrth i Brian O'Driscoll gael ei orfodi i adael y cae gydag anaf i'w ffêr.
Does dim disgwyl iddo fod yn holliach ar gyfer gemau Iwerddon dros y mis nesaf.
Roedd Leinster yn dominyddu'r gêm gyda'r sgôr ar yr hanner yn 40-3.
Cafwyd ceisiadau i'r tîm cartref gan Richard Strauss, Ian Madigan, dau i Jamie Heaslip, Dave Kearney a Cian Healy.
Yn yr ail hanner fe wnaeth Alex Cuthbert, Leigh Halfpenny a Tom James ymateb yn yr ail hanner gyda cheisiau i'r Gleision.
Ychwanegodd Jordi Murphy, Damian Browne a Fionn Carr dri chais arall i'r tîm cartref.
Er bod yr enwau mawr gan Leinster does 'na ddim esgus am ddiffyg y Gleision yn yr hanner cyntaf.
Ond fe ddaeth cyfle'r ymwelwyr wrth i lefel perfformiad y tîm cartref lusgo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2012