Cyhoeddi enw dynes 23 oed fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Lleoliad y ddamwain ar yr A40
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i leoliad y ddamwain tua 11pm nos Wener

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw'r ddynes a fu farw mewn damwain yn Sir Gâr nos Wener.

Roedd Laura Rees yn 23 oed ac yn byw yn Sanclêr.

Roedd hi'n gyrru un o'r ddau gar a fu yn y ddamwain ar yr A40 rhwng Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 11pm nos Wener.

Aed a phedwar o bobl, gan gynnwys dau o blant, oedd yn teithio yn y car arall i Ysbyty Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.

Credir nad ydi eu hanafiadau yn rhai difrifol.

Roedd Ms Rees yn teithio ar ei phen ei hun ar y pryd.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i gysylltu gydag Uned Plismona Ffyrdd Sir Gaerfyrddin ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.