Symud pobl wedi i dancer nwy ollwng ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Cafodd pobl eu symud o'u cartrefi yn Llanwrtyd, Powys, am rai oriau ddydd Sul oherwydd bod tancer nwy yn gollwng.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru roedd y tancer ar lôn wledig ger Ffordd Llanymddyfri yn y dref.
Cafodd dau griw tân ac injân dŵr arbennig eu hanfon i'r safle ac roedd asiantaethau eraill, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd, wedi eu galw.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod swm sylweddol o nwy wedi gollwng o'r tancer.
Cafodd ardal o 800 metr o amgylch y lôn wledig oddi ar yr A483, Ffordd Llanymddyfri, i'r de o'r dref ei gau wrth i'r arbenigwyr ddelio a'r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân tua 5.15pm bod y cyfan ar ben.
Fe wnaeth 13,500 litr o nwy ollwng.
Bu Cwmni Trenau Arriva Cymru yn darparu gwasanaeth bws rhwng Llanymddyfri a Llandrindod tra bod ymchwiliad diogelwch yn cael ei wneud yn Llanwrtyd.
Golyga amser teithio ychwanegol o hyd at awr.
Ond gyda'r cyfyngiadau ar ben mae'r awdurdodau wedi caniatau i drenau deithio eto ac mae ffyrdd wedi eu hail agor.