Ail berson wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ger Clydach ym Mlaenau Gwent
- Cyhoeddwyd
Mae ail berson wedi marw ar ôl gwrthdrawiad rhwng car a dau feic modur ym Mlaenau Gwent ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth Heddlu Gwent gadarnhau ddydd Sul bod gyrrwr y car Peugeot wedi marw yn yr ysbyty.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 12.35pm ddydd Sadwrn ar yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd ar gyrion pentre Clydach.
Bu farw gyrrwr un beic modur yn y fan a'r lle.
Roedd gyrrwr y car wedi cael ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Anafiadau
Roedd y car Peugeot 106 yn teithio i gyfeiriad Brynmawr a'r beic modur Yamaha a beic modur Brutale yn teithio i gyfeiriad Y Fenni.
Bu'r ffordd ar gau am rai oriau wedi'r digwyddiad.
Mae gyrrwr y beic modur arall yn dal mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Cafodd teithiwr yn y car fan anafiadau.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw ar 101.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2012