Tremmel yn cael ei gyfle
- Cyhoeddwyd

Dywed Gerhard Tremmel ei fod yn edrych ymlaen at gymryd lle Michel Vorm yn y gôl i Abertawe.
Mae Vorm allan am wyth wythnos ar ôl anafu ei goes yn y gêm yn erbyn Manchester City ddydd Sadwrn.
Cafodd ei anafu wrth geisio arbed ergyd Carlos Tevez wnaeth arwain at unig gol y gêm.
Dywedodd Tremmel ei fod wedi bod yn aros am ei gyfle.
"Yn bersonol, roedd yn anffodus y tymor diwetha' fod Michel wedi chwarae mor dda, felly prin iawn oedd y cyfleoedd ddaeth i'm rhan.
"'Dwi wedi bod yn hyfforddi'n dda a 'dwi am ddangos i'r rheolwr mod i'n chwaraewr da."
Bydd Tremmel, 33 oed o'r Almaen, yn chwarae ei gêm gyntaf ddydd Mercher yn erbyn Arsenal yng Nghwpan y Gynghrair.
Yna, bydd yn wynebu'r pencampwyr Chelsea yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.
Dywed y clwb fod posibilrwydd y bydd Vorm yn holliach erbyn Rhagfyr 1, pan fydd Abertawe yn teithio i Arsenal.