Corwynt Sandy yn atal disgyblion rhag hedfan adre'
- Published
Wrth i gorwynt Sandy barhau i achosi difrod yn yr Unol Daleithiau mae nifer o ddisgyblion ysgol o Gymru yn aros i glywed pryd y bydd modd iddyn nhw ddychwelyd adref.
Mae 13 o bobl wedi marw yn y digwyddiad ond mae'r athrawon a disgyblion o Gymru yn ddiogel.
Clywodd disgyblion ac athrawon ysgolion Dyffryn Teifi, Llandysul a Phlasmawr Caerdydd fod eu hediadau wedi eu canslo oherwydd y tywydd.
Roedd disgyblion Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, i fod hedfan yn ôl i Gymru nos Sul.
Mae yna 38 o ddisgyblion chweched dosbarth a chwech o oedolion ar y daith.
Hefyd yn yr Unol Daleithiau yn hirach na'r disgwyl mae disgyblion a staff Ysgol Plasmawr Caerdydd.
Dywedodd un athrawes Anna Foster Evans mai'r flaenoriaeth yw diogelwch y disgyblion.
"Mae'r holl weithgareddau eu cael eu canslo ac fe gymerwyd y penderfyniad y byddwn yn aros yn y gwesty.
"O ni fod i hedfan yn ôl nos Fawrth ond rydym yn aros am gadarnhad."
Ysgol arall o Gymru sydd wedi ei heffeithio gan y corwynt yw Ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r corwynt nerthol achosi anrhefn ar draws 12 talaith.
Yn Efrog Newydd mae llochesi wedi cael eu codi mewn 76 o ysgolion ac mae bron i 400,000 o bobl wedi cael gwybod bod angen iddynt adael eu cartrefi.
Bu farw 60 o bobl wrth i'r corwynt fynd drwy'r Caribî.
Straeon perthnasol
- Published
- 29 Hydref 2012