Creu 100 swydd mewn ffatri cydrannau ceir yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd

Fe fydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu yng nghymoedd Gwent.
Mae cwmni Meritor sy'n cynhyrchu cydrannau ceir yn bwriadu buddsoddi £36 miliwn gan adnewyddu eu safle yng Nghwmbrân.
Mae 450 o bobl yn gweithio yn y ffatri ar hyn o bryd ac mae 90% o'r cynnyrch yn cael ei allforio.
Mae'r cwmni o America wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun fydd yn creu'r swyddi dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, wedi croesawu'r newyddion.
'Profiad a hyblygrwydd'
Dywedodd Dietrich Zaps, y Rheolwr Cyffredinol: "Ar ôl ystyried yn ofalus yr opsiynau ar gyfer adfywio'r busnes, ein penderfyniad oedd buddsoddi yn ein cyfleuster yng Nghwmbrân gan gofio profiad a hyblygrwydd ein gweithlu ynghyd â chymorth y llywodraeth leol a chenedlaethol.
"Ddwy flynedd ers dechrau'r prosiect, rydyn ni'n falch iawn o'n cynnydd o safbwynt ymateb ein cwsmeriaid a gwella'r busnes."
Cefnogir y buddsoddiad o £36 miliwn gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Fuddsoddi Sengl.
Ar ymweliad â'r cyfleuster i weld y gwaith sy'n mynd rhagddo ddydd Llun dywedodd Mrs Hart fod y buddsoddiad yn arwydd o'r hyder yng Nghymru a'r gweithlu lleol.
"Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r prosiect hwn a fydd yn sicrhau y bydd Cwmbrân yn parhau'n un o safleoedd allweddol Meritor yn fyd-eang, a hefyd yn creu nifer sylweddol o swyddi wedi iddo gael ei gwblhau," meddai.